2011 Rhif 2555 (Cy.279)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r  DU ac yn y  DU yn gyfan.  Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).

Cesglir a gwaredir gwastraff trefol pydradwy gan awdurdodau lleol a chan y sector preifat.  Mae'r targedau yn gymwys i'r ddau ohonynt. 

Fel rhan o'r drefn i sicrhau bod y targedau'n cael eu bodloni, mae Deddf GAMA yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyrannu lwfansau i awdurdodau lleol yn eu swyddogaeth fel awdurdodau gwaredu gwastraff.  Caniateir i awdurdodau lleol dirlenwi un dunnell o wastraff trefol pydradwy ar gyfer pob lwfans a ddelir ganddynt.  Ceir y rheolau manwl ar sut y mae'r system o lwfansau'n gweithio yn Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru ) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)).  Nid yw'r Cynllun hwnnw'n gymwys i wastraff a waredwyd gan y sector preifat.

Defnyddir y term “biodegradable municipal waste” (“gwastraff trefol pydradwy”) yn Neddf GAMA i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ei gwmpasu ac i gyfeirio at y categori ehangach o wastraff y mae'r targedau'n ei gwmpasu.  Mae Ddeddf GAMA yn cael ei diwygio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau.  Gwneir y diwygiadau hyn gan Reoliadau Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2499) a fydd yn dod i rym ar yr un adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym.  Dangosir y gwahaniaeth drwy gyflwyno'r term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol” i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ymwneud ag ef.  Gwneir diwygiad cysylltiedig i gyflwyno'r term “gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol” i wahaniaethu rhwng gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdodau lleol wrth wastraff trefol nas casglwyd gan awdurdodau lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 fel bod y termau newydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliadau 2004.  Diwygiadau technegol yw'r rhain a fydd yn cael effaith niwtral ar awdurdodau lleol a'r sector busnes a'r sector gwirfoddol. 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.  O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n anghenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

2011 Rhif 2555 (Cy.279)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                                     25 Hydref 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                       27 Hydref 2011

                                                                 

Yn dod i rym                     21 Tachwedd 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 11(1), (2)(b), (d), (f) a (3), 12(1) a (4), 24(1)(c) a 26(3)  o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003([1]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Tachwedd 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr  “Rheoliadau 2004” yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004([3]).

Diwygio Rheoliadau 2004

2. Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn:

Diwygio rheoliad 2(1) (dehongli)

3. Yn rheoliad 2(1)([4])—

(a)     Hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);

(b)     hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);

(c)     yn y mannau priodol mewnosoder—

ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol([5]);

“ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol([6]);”;

(ch) hepgorer y diffiniadau o- “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).

Rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad”

4. Ym mhob man y mae’n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” (“the Assembly”) rhodder “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”).

 

Amnewid y term “gwastraff trefol a gasglwyd”

5. Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” (“municipal waste”) rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”)—

(a)     rheoliad 6(1)(b)([7]) ac (c);

(b)     yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);

(c)     rheoliad 14(2)(ii).

Amnewid y term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”

6. Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” (“biodegradable municipal waste”) rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”).

Amnewid rheoliad 8 (penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff)

7. Yn lle rheoliad 8 rhodder—

“8. Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a gasglwyd sydd mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd

Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd.”.

 

 

 

John Griffiths

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

25 Hydref 2011

 

 

 



([1])           2003 p. 33.  Mae diwygiadau i adran 24 o'r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([2])           Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 2004/1490 (Cy. 155); diwygiwyd gan O.S.2005/1820  (Cy. 148) Atodlen 2 paragraffau 5 i 8) ac O.S. 2011/971 (Cy. 141)  rheoliad 3.

([4])           Mae diwygiadau i reoliad 2(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])           I gael ystyr “local authority collected municipal waste” gweler adran 21(4) o'r Ddeddf.

([6])           I gael ystyr “biodegradable local authority collected municipal waste” gweler adran 21(2)(b) o'r Ddeddf.

([7])           Mae diwygiad i reoliad 6(1)(b) nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.